Dechre ar ymgyrch arall
So [wi’n joio shwd ma’r Americanwyr yn dechre’u blogs gyda “So” o hyd], co ni ma unwaith eto ar drothwy ymgyrch rhagbrofol arall gyda tim Cymru. Montenegro oddi cartre heno am 18:30 (yn fyw ar S4C) yw’r gem gynta, a wi’n siomedig ofnadw mod i ddim mas yna gyda’r tua 500 o Gymry sydd wedi neud y daith Trains Plains and Automobiles-aidd i gyrraed Podgorica.
I fod yn onest, wi wedi gadael i’r busnes mynd i weld Cymru oddi cartre fynd ar gyfeiliorn dros yr ychydig flynyddoedd dwetha. Ma fy ‘ngyrfa’ wedi mynd a fi i Oslo (2 waith), Helsinki, Milan, Baku, Vienna, Dulyn, Manceinion, Limassol, Bilbao a Belgrade dros y 10 mlynedd dwetha, ond sai di bod “away” ers Bilbao yn 2006. 4 mlynedd o dosturi. Ma unrhywun sydd wedi teimlo’r wefr o ddilyn Cymru oddi cartre yn berson lwcus iawn. Peidiwch meddwl bod chi am weld buddugoliaethau – dim ond yn Bilbao a Helsinki dwi wedi teimlo’r wefr yna – ond nid dyna’r pwynt. Ma na gyfeillgarwch, yfed, [tamed bach o glatsho], a lot hwyl i gael mewn bod yn rhan o peth fel’na. Ma’n beth unigryw – gofynwch i selogion y teithiau oddi tramor am eu profiadau, ac pham eu bod nhw’n mynd nol tro ar ol tro i wylio gemau gachu o bel-droed.
[Sgwennwyd hwn fel rhan o ddiwrnod Pethau Bychain. Er, digon posib fyddai nol cyn bo hir gyda mwy]
Labels: Cymru, peldroed, Pethau Bychain
1 Sylwadau:
Erthygl da Siân
Ychwanegu sylw
<< Nol Gartre'