12.1.10

24 - LOST - Flashforward - Teli'r UDA

Fi'n itha hoffi rhaglenni ma. Sai'n un o'r bobl ma sy'n caru pob lwmp o dwrd sy'n dod o ochr draw Môr yr Iwerydd, ond chware teg ma na ambell i raglen da gyda nhw (gan gynnwys y rhaglen 'na sy'n dilyn Steven Seagal yn ei swydd rhan-amser fel Sheriff's Deputy. Ma fe'n gret gweld e'n neu ei sdwff - a hefyd gweld ei gyd-weithwyr yn trio'n galed i brofi bod nw'n meddwl dim o'r ffaith bod na seren Hollywood yn y car gyda nhw. "I'M driving this car, Steven", rhuodd un o'r coppers wrtho fe dwrnod o'r blaen, pan odd Seagal yn trial gweud wrtho fe pa ffordd i fynd!).

Ma cyfres (neu tymor, I suppose os dwi am americaneiddio'r holl beth) newydd o 24 yn dachre ar 24ain o mis yma, sydd yn neud fi tipyn bach yn excited i weud y lleia. Ond y newyddion sy'n dod a mymryn yn fwy o wlypder i'r boxer shorts yw'r ffaith fod cyfres/tymor olaf LOST yn dechre ym mis Chwefror. Iei! Gobeithio gawn ni atebion i'r holl gwestiynau sydd wedi codi dros y 5 cyfres dwetha. Ond mwy na dim, gobeithio y fydd e'n dda.

Parthed Flashforward...mid-season break gan y Yanks ar hon. Fydd e ddim nol tan mis Mawrth, sy'n golygu bydd e di bod bant am 4 mis. Poendod tinol go iawn.

Yn anffodus ma The Wire Season 1 dal ar y rhestr Love Film yn aros i gael ei yrru ato fi...Ers blydi ages!