30.5.07

Priodi - nonsens llwyr...

Llynedd…neu falle’r flwyddyn cyn ‘ny…ie fi’n credu taw…neu falle taw llynedd o’dd hi…na…definitely 2 flynedd nol. Eniwei, rhywbryd yn y ddwy flynedd dwetha ma, ges i neges destun gan fy ffrind i ddweud ei fod e wedi gofyn Y Cwestiwn i’r misus - o’r diwedd.

‘Roedd yna gryn dipyn o ddyfalu wedi bod ymysg ein criw ers sbel. O’n i – am un – yn convinced ei fod yn mynd i holi iddi yn ystod steddfod Tyddewi (dim fod e actually yn Tyddewi – roedd e ar tour o ddwyrain Ewrop gyda’i gariad). Golles i’r bet sylweddol hwnnw a wnaethpwyd wedi prynhawn o ddiota eisteddfodol, pan ddath hi nôl heb golwg o fodrwy ar y trydydd bys, a felly cadw’n dawel nes i ar y darogan o hynny ymlaen. Unwaith ‘di’i gnoi, dwywaith yn swil.

Wrth gwrs, pan ma’r bois yn ffindo mas bod aelod o’r gang (am air gachu, west side story-aidd) yn clymu’r cwlwm, ma pawb yn meddwl am pwy sy’n mynd i gael y job o fod yn best man. Yn y sefyllfa yma, roedd yna dipyn o ni yn y ras – ni gyd di bod yn ffrindie ers sbel – felly ‘doedd neb yn datgelu rhyw lawer. “Sai’n gwbod pwy neith e ddewis. Ti siwr o fod”, oedd lein y rhan fwyaf o’r bois.

Ac yna ddaeth sesiwn yn Aber. Roedd y ffrind a’i ddarpar wraig lawr yn dathlu eu dyweddiad gyda cwpl o beints. Yn hwyr fewn i’r noson; yng ngrombil Y Bae; wedi sawl diod; nath e holi i fi yn ei steil unigryw… “Sai’n gallu meddwl am unrhywun gwell am y job…bysen i wrth fy modd os ‘se ti’n fod yn best man”.

Nes i gytuno there and then. Fi digon hapus gyda fy secsiwaliti i weud natho ni gael embrace ar y pryd. Roedd e’n foment sbeshal, ac oeddwn i’n chuffed fod e wedi holi fi.

Nawr te, fast-forward tua 2 flynedd. Ni newydd dod nol o’r stag yng Nghaeredin, lle gafwyd sbort fawr yn dathlu dwrnode ola’r cyfaill fel dyn sengl. Ma’r briodas ar y gorwel ac yn agosau’n blydi gyflym. A fi’n shitto fy hun. Y ffycing speech. Sai’n gwbod be i weud. Sdim clem da fi shwd ma neud stafell llawn o bobl i wherthin. Sai di sgwennu unrhywbeth. A nawr i fi’n dyfaru dweud “wrth gwrs wnai fod yn best man” mor frwdfrydig o dan effeithiau sylweddol y bwz.

Felly, pobl Cymru – ac unrhywun arall sy’n darllen y blog ‘ma i ddweud y gwir. HELP!!! FFYCING HELP!!!


RIP - ILJ

2 Sylwadau:

Blogger Ordovicius - dwedodd...

Oes gen ti syniadau ar gyfer y Welsh Blog Awards 2007?

14/6/07 2:59 AM  
Blogger Netty - dwedodd...

Priodi!! Pob lwc,
Annette

http://wales.germanblogs.de/

5/9/07 10:32 AM  

Ychwanegu sylw

<< Nol Gartre'