4.7.06

Brasil v Ffrainc 1986

Newydd sylwi fod gan y BBC uchafbwyntiau o un o'r gemau gorau erioed ar eu gwefan ar hyn o bryd. Roedd gennai i Hero, sef stori cwpan y byd 1986 a roeddwn i yn aml iawn jyst yn fast-forwardio i wylio'r gem anhygoel yma.

Sylwch ar Branco yn dathlu'r cic o'r smotyn tuag at y diwedd fel petai Brasil wedi ennill. Gwyliwch Carlos yn tynnu Bruno Bellone pan mae e trwyddo ar gol, ond uy dyfarnwr yn gwneud dim. Nodwch cic o'r smotyn Bellone yn y shoot-out oedd yn gwbl anghyfreithlon. Hynod!

Peth arall, nes i sylwi ar yn ystod ail-wylio'r uchafbwyntiau oedd y cysgodion byr oedd y chwaraewyr yn taflu ar y cae. Rhaid fod hi'n danbaid yno yn Guadalajara ganol haf, ond nath hyn ddim neud gwahaniaeth i'r gem. 120 munud gwych o bel-droed.
Mwynhewch yma.