Dim o werth. Jyst dweud helo.
Diawch ma’n boeth bois bach. Sai’n un sy’n hoffi’r haul fel arfer, ond yr wythnos dwetha hyn, dwi di bod mas yn yr heulwen bob dydd. Ch’weld, wi’n diode o psoriasis ar fy mreichiau a ma’r doctor yn dweud fod mynd mas i’r haul yn helpu gyda clirio’r ‘glefyd’. Ond wedyn, nath y ddynes yn yr ysbyty dweud tho fi p’ddiwrnod i beidio mynd mas gymaint ac i rhoi Factor 20 mlan i amddiffyn y croen. So, fi’n neud hanner a hanner.
Ges i rostiad go lew (dim yn yr ystyr Premiership Ffwtbolyr) yn Eisteddfod yr Urdd, Rhuthun dydd Sadwrn dwetha. Mas yn yr haul trwy’r dydd o 7 yn bore. Hyfryd. Cystadlu o’n i wrth gwrs. Ychydig o mixed bag. Buddugoliaeth yn yr ensemble lleisiol (fideo yma i’r sawl sydd heb unrhywbeth gwell i neud) ac ail i’r parti bois, ond dim llwyfan yn y côr. Wedyn, piss up enfawr, lle ges i fy atgoffa mod i ddim wedi ychwanegu i’r blog ers sbel (so ma’r hanesyn yma er mwyn ti, Elen!).
Erm…be arall odw i wedi bod yn neud dwedwch...es i i Wlad y Basg wrth gwrs. Blydi gwd laff, ond dim llawer i'w adrodd nol…erm...o ie, es i mas i ymarfer ychydig ar y golff wthnos yma. Twrnament mawr gwaith yn dod lan yn Porthmadog ymhen pythefnos, a sai di chware’n iawn ers sbel. Ma angen mynd i’r driving range arno fi i gael gwared a’r slice bondigrybwyll.
Ac…wel…cwpan y byd. Dechre heddiw. 5 wthnos o bel-droed. Fan-blydi-tastic. Sweden yw’r tim dwi am ddilyn eto ‘leni. Ma na soft spot gen i ato nhw am rhyw reswm. Falle am taw nhw oedd y tim rhyngwladol cyntaf i mi weld yn chwarae (nhw a Cymru yn naturiol).
1 Sylwadau:
Fel dioddefwr o eczema (sef brawd bach ond equally annoying psoriosis - same shit different title) allai weu'tho ti mai dwr y mor a haul yw'r peth gore gei di (gwell na unrhyw feddiginiaeth), wedyn 'r ol dwrnod ar y traeth... moisturise, baby!!!!
Gadel am aber, wap so welai di mas nos fory gobitho!
Ychwanegu sylw
<< Nol Gartre'