23.3.09

Cathod di-alergedd / Hypoallergic cats

Helo bobl. Ma cath 'da fi ('na chi rhywbeth newydd ers i fi flogio dwetha). Cath normal sy'n hoffi cnoi traed fi. Dwi'n lwcus. Sdim alergedd gen i at gathod. Ond ma gan rhai bobl alergedd (ife dyna be yw allergy?) a ma rhai pobl yn exploito nhw gyda scams am gathod di-alergedd. Darllenwch am gwmni dodgy Lifestyle Pets fan hyn.

A friend of mine created a blog to talk about his experiences getting ripped off by a company called Lifestyle Pets, who claim to sell a hypoallergic cat called Allerca, but really just seem to charge thousands of dollars for the honor of being put on an endless waiting list.

Labels: ,

30.5.07

Priodi - nonsens llwyr...

Llynedd…neu falle’r flwyddyn cyn ‘ny…ie fi’n credu taw…neu falle taw llynedd o’dd hi…na…definitely 2 flynedd nol. Eniwei, rhywbryd yn y ddwy flynedd dwetha ma, ges i neges destun gan fy ffrind i ddweud ei fod e wedi gofyn Y Cwestiwn i’r misus - o’r diwedd.

‘Roedd yna gryn dipyn o ddyfalu wedi bod ymysg ein criw ers sbel. O’n i – am un – yn convinced ei fod yn mynd i holi iddi yn ystod steddfod Tyddewi (dim fod e actually yn Tyddewi – roedd e ar tour o ddwyrain Ewrop gyda’i gariad). Golles i’r bet sylweddol hwnnw a wnaethpwyd wedi prynhawn o ddiota eisteddfodol, pan ddath hi nôl heb golwg o fodrwy ar y trydydd bys, a felly cadw’n dawel nes i ar y darogan o hynny ymlaen. Unwaith ‘di’i gnoi, dwywaith yn swil.

Wrth gwrs, pan ma’r bois yn ffindo mas bod aelod o’r gang (am air gachu, west side story-aidd) yn clymu’r cwlwm, ma pawb yn meddwl am pwy sy’n mynd i gael y job o fod yn best man. Yn y sefyllfa yma, roedd yna dipyn o ni yn y ras – ni gyd di bod yn ffrindie ers sbel – felly ‘doedd neb yn datgelu rhyw lawer. “Sai’n gwbod pwy neith e ddewis. Ti siwr o fod”, oedd lein y rhan fwyaf o’r bois.

Ac yna ddaeth sesiwn yn Aber. Roedd y ffrind a’i ddarpar wraig lawr yn dathlu eu dyweddiad gyda cwpl o beints. Yn hwyr fewn i’r noson; yng ngrombil Y Bae; wedi sawl diod; nath e holi i fi yn ei steil unigryw… “Sai’n gallu meddwl am unrhywun gwell am y job…bysen i wrth fy modd os ‘se ti’n fod yn best man”.

Nes i gytuno there and then. Fi digon hapus gyda fy secsiwaliti i weud natho ni gael embrace ar y pryd. Roedd e’n foment sbeshal, ac oeddwn i’n chuffed fod e wedi holi fi.

Nawr te, fast-forward tua 2 flynedd. Ni newydd dod nol o’r stag yng Nghaeredin, lle gafwyd sbort fawr yn dathlu dwrnode ola’r cyfaill fel dyn sengl. Ma’r briodas ar y gorwel ac yn agosau’n blydi gyflym. A fi’n shitto fy hun. Y ffycing speech. Sai’n gwbod be i weud. Sdim clem da fi shwd ma neud stafell llawn o bobl i wherthin. Sai di sgwennu unrhywbeth. A nawr i fi’n dyfaru dweud “wrth gwrs wnai fod yn best man” mor frwdfrydig o dan effeithiau sylweddol y bwz.

Felly, pobl Cymru – ac unrhywun arall sy’n darllen y blog ‘ma i ddweud y gwir. HELP!!! FFYCING HELP!!!


RIP - ILJ

7.3.07

Y beiliffs yn mynd rownd i Tesco.

Diawch, ma na rhywbeth digon difyr am y stori yma, bois bach...

22.2.07

Bellamy

Nes i ddim gwylio gem neithiwr (Barca v Liverpool) so sai'n mynd i commentio ar unrhywbeth i wneud a'r chware yn y Camp Nou. 'Dwi jyst moyn tynnu sylw i hwn...



Craig bach...Ai dyma'r swing golff gwaethaf erioed? Edrychwch ar pa mor bell i ffwrdd o'i gilydd mae'i draed. A ma'r pen yna dros y lle i gyd. Ma angen tipyn bach mwy o amser lawr y driving range ar y boi os yw e moyn dod a'r handicap 'na lawr os chi'n gofyn i fi.

21.2.07

Shwmai. Cofio fi?

It's been a long time, been a long time,
Been a long lonely, lonely, lonely, lonely, lonely time.
Yes it has.

Ac mae e wedi bod, odi wir blantos bach. A be i fi wedi bod yn neud yn yr amser ‘ma? Dim byd rili. Wel, dim byd diddorol ta beth. Bach o deithio a bach o bwzo, ond dim byd or-exciting.

Un peth fi wedi bod lan i yw dechre gwylio “24”. O’n i byth wedi gwylio’r gyfres ma o’r bla’n achos o’dd pawb yn mynd mlan amdano fe a o’n i methu fod yn bothered i ddilyn y gyfres o wthnos i wthnos ar y teli. Ond erbyn hyn – wedi cryn dipyn o bwysau i’w wylio - fi di gwylio’r 2 gyfres gyntaf (gan gynnwys marathon o 12 “awr” ddydd sul dwetha) erbyn hyn a dwi’n hooked.

Yr unig broblem yw bod fi methu cael gafael ar y 3ydd gyfres. Yn amlwg, allen i brynu e, ond i fi braidd yn dynn da’r ceinioge, so sai moyn neud yna. Es i fewn i Pier Video i’w rhenti, ond o’dd e ddim ‘da nhw – er fod pob cyfres arall yna. A ‘sneb i fi’n nabod mas ‘na gyda cyfres 3 i fenthyg i fi. So, i fi braidd yn stympd. Heblaw fod rhywun mas ‘na gyda cyfres 3 ma nhw moyn rhoi benthyg i fi?
Na. O'n i'm yn meddwl 'ny...

1.12.06

Penblwydd Hapus i fi

Yn ol hwn (thingy downloadable Excel yw e) dwi'n 10,000 o ddiwrnode oed heddiw. I ddathlu'r achlysur dyma fideo i chi o 'r boi nath chware Biff Tannen yn Back to the Future yn canu cân difyr. Roll on 27 Awst 2009 pan fyddai 11,000 diwrnod oed.

26.10.06

Llythyr agored i drigolion Aberystwyth

Annwyl bobl Aberystwyth

A fyse chi mor garedig a sylwi taw nid punchbag/kickbag yw fy nghar a bod drysau a wingmirrors newydd yn costio ffacing loads o arian. Ffacing ciciwch y car drws nesa am change.

Yr eiddoch yn gywir.

Siôn.